Welsh Energy Service projects could save or generate more than £320m

The Energy Service collaborates with public sector and community enterprises to reduce energy use, generate locally owned renewable energy, and reduce carbon emissions.

The Energy Service released its annual report today which captured the impact results of all projects since its launch in 2018.

So far, the Energy Service has supported nearly 300 projects which range from new installed renewables, to advancing energy efficiency work and zero emission vehicle fleet replacements.

The renewable energy projects alone have introduced 40.5MW of new capacity, equivalent to enough electricity to power 16,000 homes1

Poppy Potter, Head of the Welsh Government Energy Service, said: 

‘This year’s Energy Service projects have really shown the wider benefits of taking action on climate change now. With such high energy prices, reducing energy use in our public buildings and generating local renewable energy is more important than ever. Switching from petrol and diesel to zero-emissions cars helps make the air cleaner too. Our case studies show how economic and health benefits go hand in hand with the transition to Net Zero.’

The Energy Service helps public bodies and community enterprises by providing free technical, commercial and procurement advice. 

Climate Change Minister Julie James said: “The Welsh Government Energy Service programme is a critical part of our ambition to realise a Net Zero Wales by 2050.

“Since 2018, Public sector and community enterprises have achieved impacts that reduce energy use, generate locally owned renewable energy and lower carbon emissions.

“The Energy Service support has secured more investment and created savings to drive further action.

“The work so far provides a firm foundation to continue to build a Team Wales approach, involving everyone in tackling climate change at speed in this climate emergency.”

Alongside the annual report, the Energy Service has announced further plans for its activities over the next four years.

This includes the £20m Low Carbon Heat Grant, designed to support local authorities implementing low carbon heat projects and accelerating the move away from burning fossil fuels for heat.

Alison Oliver, Directorate Manager of the Children’s Service Cardiff & Vale University Health Board said, “having these energy improvements installed has made a significant difference to the Children’s Hospital. It means we can care for our patients in an improved environment that offers them comfort and wellbeing.”

The Energy Service has been led by the Carbon Trust and Energy Saving Trust for the past five years, along with a consortium of other organisations.

The two organisations have been selected through a competitive bidding process to continue to programme and deliver the second phase backed by £29m of funding over the next four years.

ENDS


 1 ∑ (Power capacity (kW) * Number of hours a year * Capacity Factor Annual Production)/ Avg kWh per home per year 

Notes to editors:

Welsh Government Energy Service supports community and public sector organisations in Wales to develop energy efficiency and renewable energy projects that will lower carbon emissions and provide cost savings, income generation and wider community benefits.

The service is funded by Welsh Government. It is delivered by a consortium led by the Carbon Trust and Energy Saving Trust. 

Follow the Energy Service on Twitter (@_EnergyService), LinkedIn (Welsh Government Energy Service), or contact the team via email.
 

WGES annual report cover

 

 

Gallai prosiectau Gwasanaeth Ynni Cymru arbed neu gynhyrchu mwy na £320m

Disgwylir i brosiectau a gefnogir gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru gynhyrchu mwy na £320m drwy arbedion a chynhyrchu pŵer yn ôl canlyniadau newydd a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mercher, 12 Gorffennaf). 

Mae'r Gwasanaeth Ynni yn cydweithio â'r sector cyhoeddus a mentrau cymunedol i leihau'r defnydd o ynni, cynhyrchu ynni adnewyddadwy a berchnogir yn lleol, a lleihau allyriadau carbon. 

Rhyddhaodd y Gwasanaeth Ynni ei adroddiad blynyddol heddiw a oedd yn cofnodi canlyniadau effaith pob prosiect ers ei lansio yn 2018. 

Hyd yn hyn, mae'r Gwasanaeth Ynni wedi cefnogi bron i 300 o brosiectau sy'n amrywio o ynni adnewyddadwy newydd wedi'u gosod, i annog gwaith effeithlonrwydd ynni a newid i fflyd cerbydau dim allyriadau. 

Mae'r prosiectau ynni adnewyddadwy yn unig wedi cyflwyno 40.5MW o gapasiti newydd, sy'n cyfateb i ddigon o drydan i bweru 16,000 o gartrefi1.  

Dywedodd Poppy Potter, Pennaeth Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru:

 ‘Mae prosiectau’r Gwasanaeth Ynni eleni wir wedi dangos buddion ehangach cymryd camau gweithredu ar newid hinsawdd nawr. Gan fod prisiau ynni mor uchel, mae gostwng y defnydd o ynni yn ein adeiladau cyhoeddus a chynhyrchu ynni adnewyddadwy lleol yn fwy pwysig nag erioed. Mae newid o geir petrol a diesel i rai dim allyriadau yn helpu i wneud yr aer yn lanach hefyd. Mae ein hastudiaethau achos yn dangos sut mae buddion economaidd ac iechyd yn mynd law yn llaw â’r newid i sero net.’ 

Mae'r Gwasanaeth Ynni yn helpu cyrff cyhoeddus a mentrau cymunedol drwy ddarparu cyngor technegol, masnachol a chaffael am ddim.  

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:  
“Mae rhaglen Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn rhan allweddol o’n huchelgais i gyflawni Cymru Sero Net erbyn 2050.  

“Ers 2018 mae mentrau cymunedol a’r sector cyhoeddus wedi cyflawni effeithiau sy’n lleihau’r defnydd o ynni, cynhyrchu ynni adnewyddadwy sy’n eiddo i ardaloedd lleol a lleihau allyriadau carbon. 

“Mae’r cymorth gan y Gwasanaeth Ynni wedi sicrhau mwy o fuddsoddiad ac wedi cyflawni arbedion er mwyn sbarduno rhagor o weithredu.” “Mae’r gwaith sydd wedi’i gyflawni hyd yma wedi gosod sylfeini cadarn ar gyfer creu dull i Gymru, lle y bydd pawb yn mynd i’r afael â newid hinsawdd ar fyrder yn wyneb yr argyfwng hinsawdd hwn.” 

Ochr yn ochr â'r adroddiad blynyddol, mae'r Gwasanaeth Ynni wedi cyhoeddi cynlluniau pellach ar gyfer ei weithgareddau dros y pedair blynedd nesaf. 

Mae hyn yn cynnwys y Grant Gwres Carbon Isel gwerth £20m, a ddyluniwyd i gefnogi awdurdodau lleol i weithredu prosiectau gwres carbon isel a chyflymu'r symudiad i ffwrdd o losgi tanwydd ffosil ar gyfer gwres. 

Dywedodd Alison Oliver, Rheolwr Cyfarwyddiaeth Plant Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, “mae gosod y gwelliannau ynni hyn wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i'r Ysbyty Plant. Mae'n golygu y gallwn ni ofalu am ein cleifion mewn amgylchedd gwell sy'n cynnig cysur a lles iddynt.” 

Mae'r Gwasanaeth Ynni wedi ei arwain gan yr Ymddiriedolaeth Garbon a'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni am y pum mlynedd diwethaf, ynghyd â chonsortiwm o sefydliadau eraill. 

Mae'r ddau sefydliad wedi eu dewis drwy broses geisiadau cystadleuol i barhau i raglennu a darparu'r ail gam gyda chefnogaeth gwerth £29m o gyllid dros y pedair blynedd nesaf. 

DIWEDD


 1 ∑ (Capasiti pŵer (kW) * Nifer o oriau'r flwyddyn * Ffactor Capasiti Cynhyrchu Blynyddol)/ Cyfartaledd kWh pob cartref y flwyddyn 

Nodiadau i olygyddion

Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn cefnogi sefydliadau'r sector cymunedol a’r sector cyhoeddus yng Nghymru i ddatblygu prosiectau effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy a fydd yn lleihau allyriadau carbon ac yn darparu arbedion cost, yn cynhyrchu incwm a buddion cymunedol ehangach. 

Mae'r gwasanaeth yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Caiff ei gyflawni gan gonsortiwm dan arweiniad yr Ymddiriedolaeth Garbon a'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni.  

Dilynwch y Gwasanaeth Ynni ar Twitter (@_gwasanaethynni), LinkedIn (Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru), neu cysylltwch â'r tîm drwy e-bost.

WGES annual report cover